{"id":11112,"date":"2025-06-11T15:56:06","date_gmt":"2025-06-11T14:56:06","guid":{"rendered":"https:\/\/www.natureconservation.wales\/prosiect-achub-llygoden-bengron-y-dwr\/"},"modified":"2025-06-11T15:56:06","modified_gmt":"2025-06-11T14:56:06","slug":"prosiect-achub-llygoden-bengron-y-dwr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.wild.cymru\/cy\/prosiect-achub-llygoden-bengron-y-dwr\/","title":{"rendered":"PROSIECT ACHUB LLYGODEN BENGRON Y D\u0174R"},"content":{"rendered":"\n<p>Newyddion cyffrous i Wild Cymru. Dros y 3 blynedd nesaf byddwn yn gwneud gwaith ymchwil pwysig ar gyfer Llygod Pengrwn y D\u0175r yr ucheldir ym Morgannwg. Byddwn yn nodi pa mor dda y mae\u2019r gwahanol boblogaethau wedi\u2019u cysylltu, a pha rwystrau maen nhw\u2019n eu hwynebu wrth wasgaru.<\/p>\n\n<p>Mae Menter ar gyfer Cadwraeth Natur Cymru (Wild Cymru) yn gobeithio gwella ffawd un o rywogaethau mamaliaid prinnaf Cymru sy\u2019n wynebu\u2019r bygythiad mwyaf \u2013 Llygoden Bengron y D\u0175r. Heb gymorth cadwraeth, mae\u2019n debygol y bydd Llygoden Bengron y D\u0175r, rhywogaeth hardd iawn a oedd unwaith yn gyffredin, yn diflannu o Gymru yn y dyfodol agos.<\/p>\n\n<p>Bydd cyllid o Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd dros y tair blynedd nesaf yn galluogi Wild Cymru i wneud gwaith ymchwil hanfodol i boblogaethau o Lygod Pengrwn y D\u0175r sy\u2019n byw yn ucheldiroedd Morgannwg, y credir bellach ei fod yn un o\u2019r rhanbarthau pwysicaf ar gyfer y rhywogaeth yng Nghymru.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/www.natureconservation.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/WV2-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-9253\" srcset=\"https:\/\/www.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/WV2-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/www.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/WV2-300x169.jpg 300w, https:\/\/www.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/WV2-768x432.jpg 768w, https:\/\/www.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/WV2-600x338.jpg 600w, https:\/\/www.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/WV2.jpg 1280w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n<p>Bydd swyddogion ac ymchwilwyr o Wild Cymru yn gweithio gyda chymunedau lleol, gwirfoddolwyr a sefydliadau partner i nodi\u2019r holl boblogaethau presennol o Lygod Pengrwn y D\u0175r yn yr ardal. Unwaith y byddant wedi cael eu darganfod a\u2019u mapio, bydd y prosiect yn nodi unrhyw rwystrau i Lygod Pengrwn y D\u0175r mewn ardaloedd ucheldirol a allai fod yn eu hatal rhag gwasgaru a sefydlu mewn cynefinoedd newydd ac addas.<\/p>\n\n<p><em>&#8220;<\/em><em>ydyn ni\u2019n gyffrous am gefnogi\u2019r cynnig yma \u2013 mae\u2019r gymuned wedi gofyn i\u2019r gronfa gefnogi mentrau hinsawdd ac amgylcheddol sy\u2019n gweithio gyda\u2019r gymuned i ddatblygu a rheoli amgylcheddau naturiol lleol ac ysbrydoli\u2019r gymuned i warchod a gwerthfawrogi ei hamgylchedd. Mae\u2019r cynnig yma wedi bod yn cael ei ddatblygu ers tro ac mae ganddo gynllun clir, effaith eang a llawer o bartneriaid eraill yn gysylltiedig ac rydyn ni\u2019n dymuno\u2019r gorau iddyn nhw.&#8221;<\/em><\/p>\n\n<p><em>Kate Breeze, Cyfarwyddwr Gweithredol, Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd .<\/em><em><\/em><\/p>\n\n<p>Y prif ffactor sy\u2019n effeithio ar Lygod Pengrwn y D\u0175r yn y DU yw eu hysglyfaethu gan y Minc Americanaidd. Mae\u2019r ysglyfaethwr estron yma wedi dileu Llygod Pengrwn y D\u0175r o lawer o\u2019u cynefin blaenorol. Mae\u2019n well gan y Minc Americanaidd fyw yn afonydd yr iseldir a chorsydd arfordirol ac felly dim ond yn achlysurol y bydd yn sefydlu tiriogaeth yn ein hucheldiroedd ni yng Nghymru, sy\u2019n amhosibl byw ynddyn nhw yn aml. Mae hyn yn rhoi cyfle i Lygod Pengrwn y D\u0175r sy\u2019n byw mewn ardaloedd ucheldirol oroesi. Fodd bynnag, mae bwyd ynni isel, llifogydd sydyn a gaeafau caled yn golygu y gall y poblogaethau yma fethu yn aml. Yn ogystal \u00e2 Mincod Americanaidd achlysurol, efallai y bydd rhaid i Lygod Pengrwn y D\u0175r yr ucheldir herio bygythiadau eraill hefyd, fel planhigfeydd coedwigaeth, coed conwydd sy\u2019n hunanhadu, draenio tir a datblygiadau tyrbinau gwynt.<\/p>\n\n<p>Bydd y prosiect yn cynnal ymchwil arloesol a fydd yn gwella ein dealltwriaeth ni o Lygod Pengrwn y D\u0175r mewn tirweddau ucheldirol. Bydd posib perthnasu\u2019r canfyddiadau hyn i Gymru gyfan, sy\u2019n golygu y bydd posib gofalu\u2019n briodol am y llochesi olaf ar gyfer Llygod Pengrwn y D\u0175r, ar eu cyfer hwy a\u2019r bywyd gwyllt arall sydd ar y dibyn.<\/p>\n\n<p>&#8220;<em>Un elfen gyffrous o\u2019r prosiect fydd gweithio gyda chymunedau a gwirfoddolwyr i sicrhau eu bod wrth galon y gweithredu cadwraeth ar gyfer Llygod Pengrwn y D\u0175r yn lleol. Rydyn ni\u2019n edrych ymlaen at weithio gyda chymunedau lleol i dynnu sylw at ba mor bwysig yw eu tirwedd nhw i\u2019n bywyd gwyllt prinnaf ni\u201d.<\/em>&#8220;.<\/p>\n\n<p>Rob Parry \u2013 Prif Swyddog Gweithredol, Menter ar gyfer Cadwraeth Natur Cymru<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Newyddion cyffrous i Wild Cymru. Dros y 3 blynedd nesaf byddwn yn gwneud gwaith ymchwil pwysig ar gyfer Llygod Pengrwn y D\u0175r yr ucheldir ym Morgannwg. Byddwn yn nodi pa mor dda y mae\u2019r gwahanol boblogaethau wedi\u2019u cysylltu, a pha rwystrau maen nhw\u2019n eu hwynebu wrth wasgaru. Mae Menter ar gyfer Cadwraeth Natur Cymru (Wild [&#8230;]<\/p>\n<p><a class=\"btn btn-secondary understrap-read-more-link\" href=\"https:\/\/www.wild.cymru\/cy\/prosiect-achub-llygoden-bengron-y-dwr\/\">Read More&#8230;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":113,"featured_media":9252,"comment_status":"open","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"iawp_total_views":10,"footnotes":""},"categories":[267],"tags":[],"class_list":["post-11112","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-wildlife-protection-cy"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.wild.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11112","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.wild.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.wild.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.wild.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/113"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.wild.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11112"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.wild.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11112\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.wild.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9252"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.wild.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11112"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.wild.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11112"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.wild.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11112"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}