Yn 2023 dechreuodd INCC reoli ardal fawr o dir sy’n eiddo i Brecon Carreg, y cwmni dŵr mwynau. Mae’n safle anhygoel sy’n edrych dros Gastell Carreg Cennen ac mae ganddo botensial enfawr.
Yn gorchuddio 65ha, mae’r tir o amgylch ffatri Brecon Carreg ger Trapp yn gymysgedd gwych o ddolydd, coetir, glaswelltir corsiog, glaswelltir asidig yr ucheldir ac, wrth gwrs, yr Afon Llwchwr. Yn cael ei hadnabod fel Llygad Llwchwr, mae’r afon yn tarddu o ogofâu o dan y ddaear ac yn llifo drwy’r warchodfa ac yn cwrdd â’r môr ger Llanelli yn y pen draw.



Uchod: yr afon sy’n rhedeg drwy’r warchodfa natur
Chwith: tu mewn i darddiad yr Afon Llwchwr (llun (c) Mark Burkey)
Gwaith cychwynnol INCC oedd cerdded y safle (tasg eithaf anodd!) a mapio’r cynefinoedd oedd yn bresennol, gan feddwl sut gellid gwella’r amrywiaeth drwy gyflwyno rheolaeth gydymdeimladol.


Fe wnaethon ni hefyd ddechrau cynnal rhai arolygon ecolegol sylfaenol, gan ddatgelu’r bywyd gwyllt gwych sydd eisoes yn bresennol, gan gynnwys Dyfrgwn, Moch Daear, y Gog, Cigfrain, a gweision y neidr a mursennod. Bydd yr arolygon hyn yn parhau i gael eu cynnal yn ystod y blynyddoedd nesaf i asesu pa mor dda y mae’r technegau rheoli cynefinoedd yn gweithio. Yn ogystal ag arolygon, rydyn ni hefyd wedi gosod nifer o focsys Pathewod (Muscardinus avellanarius) yn eu lle, yn ogystal â bocs Tylluanod Gwynion.



Uchod: mae Moch Daear a Dyfrgwn yn bresennol ar y safle

Gyda help tyfwr coed lleol rydyn ni wedi gosod nifer o focsys ystlumod a bocsys adar yn eu lle. Byddwn yn monitro’r rhain yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Roedd rhywfaint o’r coetir yn edrych yn ddelfrydol ar gyfer y Gwybedog Brith Ficedula hypoleuca ac yn 2025 daeth dau bâr i fyw yn y bocsys!
Mae angen rheoli rhywfaint o’r glaswelltir corsiog ar y safle i wella ei botensial ar gyfer bywyd gwyllt. Tan nawr, nid oedd yn cael ei reoli o gwbl felly mae’r glaswellt wedi gordyfu ac yn drwchus. Fe allai fod yn safle pwysig ar gyfer Britheg y Gors a gallai fod yn garreg gamu i gysylltu’r poblogaethau o amgylch Trapp â’r rhai yn Nyffryn Aman. Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda ffenswyr a phorwyr lleol ac wedi llwyddo i gyflwyno rhai gwartheg gwydn ar y safle yn 2025. Mae gwartheg ymhlith y rheolwyr cynefinoedd gorau’n bod ac fe fyddant yn sicrhau bod y glaswelltir yn cael ei agor, a fydd yn gwella bioamrywiaeth y safle.


Yn 2025 roedden ni’n ddigon ffodus i groesawu myfyrwyr o Goleg Pen-y-bont ar Ogwr i’r warchodfa natur. Fe fuon nhw’n gweithio’n galed i greu pwll newydd sbon, yn ogystal â gwneud rhywfaint o waith lladd Rhedyn gan deneuo Rhedyn trwchus mewn ardaloedd lle mae’n dechrau cysgodi cynefinoedd sensitif fel glaswelltir asid.
Ymunodd y myfyrwyr hefyd â gwirfoddolwyr lleol i ddechrau clirio’r Ffromlys Chwarennog Impatiens glandulifera hynod ymledol o’r safle. Mae’r planhigyn yma’n niweidiol iawn i fioamrywiaeth, gan gysgodi llystyfiant brodorol a gwanhau glannau afonydd. Mae llawer iawn o waith clirio wedi’i wneud eisoes a bydd monitro a rheoli’n parhau’n flynyddol. Gwnaed llawer o’r gwaith yn 2025 gan Liv a Matt, dau fyfyriwr a gyflogwyd gan INCC dros gyfnod yr haf i roi eu camau cyntaf iddynt tuag at yrfa mewn cadwraeth.

