ApĂȘl gwarchodfa natur Llwyndewi
Cefnogi ein gwaith ni yn y warchodfa natur
Mae Llwyndewi â gwarchodfa natur gyntaf Cymru Wyllt â yn arbennig. Gyda 59 o hectarau o fryniau, gwlybdiroedd a choetiroedd ym mlaenddyfroedd Afon Llwchwr, mae’n fwrlwm o bosibiliadau, ond mae angen gwaith brys i wireddu ei photensial ar gyfer bywyd gwyllt.
Rydyn ni wedi bod yn ffodus o dderbyn cefnogaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wrth i ni ddatblygu prosiect mawr i gefnogi Llwyndewi. Y gwanwyn nesaf, byddwn yn gwneud cais llawn am ÂŁ650,000 dros bum mlynedd, ac mae arnom ni angen eich help chi i godi’r arian cyfatebol sydd ei angen. Os na fyddwn yn llwyddiannus gydaân cais, bydd eich rhoddion yn cael eu buddsoddi yr un fath yn y warchodfa natur.
Byddai ÂŁ5 yn prynu menig i wirfoddolwyr sy’n rheoli rhywogaethau ymledol. Byddai ÂŁ20 yn prynu bocs nythu sy’n addas ar gyfer y Gwybedog Brith. Byddai ÂŁ100 yn prynu digon o hadau blodau gwyllt i adfer 150 metr sgwĂąr o ddĂŽl. Byddai ÂŁ200 yn prynu giĂąt stoc newydd i’n helpu ni i reoli pori cadwraeth hanfodol.
Pris a Awgrymir: £20.00


