Ers 2020 mae INCC wedi bod yn cynnal arolygon ac asesiadau i helpu fel sail i benderfyniadau rheoli bywyd gwyllt ar fferm yng Ngheredigion, ar ochr orllewinol Dyffryn Teifi. Mae’r safle yn ardal o 84.6ha o dir a oedd, tan yn gymharol ddiweddar, yn cael ei reoli’n bennaf gan ddefaid yn pori a’i dorri ar gyfer silwair. Roedd camau cynnar cyfranogiad INCC yn cynnwys cynnal arolwg cynefin llawn o’r tir ac wedyn trafodaethau gyda pherchennog y tir ar sut i wireddu ei weledigaeth o dirwedd fioamrywiol.

Yn ogystal â’r tir sy’n cael ei reoli’n ddwysach, mae’r safle’n cynnwys ardaloedd o SoDdGA sy’n gartref i Lygod Pengrwn y Dŵr a Britheg y Gors. Yn ystod y 5 blynedd ers i INCC fod yn rhan o hyn, mae perchennog y tir wedi ymroi’n frwd i’r gwaith sydd ei angen i wneud y tir cystal â phosibl ar gyfer bywyd gwyllt.

Un o’r tasgau cyntaf oedd cael gwartheg o fridiau brodorol i gymryd lle’r defaid, llawer gwell ar gyfer rheoli tir gyda chadwraeth natur mewn golwg. Daeth perchennog y tir â buches o wartheg Galloway i mewn yn gyflym, ac maent eisoes wedi gwneud gwahaniaeth mawr, mewn ardaloedd o laswelltir corsiog yn arbennig (lle na fyddai defaid yn mynd). Mae gan y gwartheg goleri NoFence sy’n galluogi eu cyfeirio i wahanol ardaloedd ar y fferm, yn dibynnu ar yr amser o’r flwyddyn.

Yn ogystal â gwartheg, mae dau fochyn Tamworth buarth wedi cael eu rhoi yma; mae eu gweithgarwch yn dynwared gweithgarwch Baeddod Gwyllt brodorol a fyddai wedi bod yn bresennol yma yn y gorffennol. Mae eu cloddio’n creu ardaloedd moel o bridd i blanhigion egino yn ogystal â phyllau bach sydd o fudd i infertebrata dyfrol ac amffibiaid magu.

Y nod ar gyfer y caeau sydd wedi’u gwella’n amaethyddol yw dod â’r amrywiaeth o flodau yn ôl, mae hyn yn cael ei wneud drwy dorri a byrnu mecanyddol i leihau’r maethynnau dros amser, ac felly bydd llawer o Rygwellt i’w weld yma. Bydd hau hadau’r Gribell Felen yn helpu i wanhau’r glaswelltau hefyd, gan arwain at wyndwn sy’n fwy cyfoethog o ran rhywogaethau ac sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt. Treuliodd myfyrwyr o Goleg Pen-y-bont ar Ogwr benwythnos ar y safle yn 2023, 2024 and 2025 a chynnal gwaith monitro llystyfiant mewn rhai o’r caeau yma er mwyn galluogi i’w cynnydd gael ei asesu’n barhaol.


Yn ogystal â’r tir o’i chwmpas, mae gan y fferm nifer o adeiladau allanol sy’n gartref i Dylluanod Gwynion, y Tingoch, Gwenoliaid Cyffredin, Gwenoliaid y Bondo ac Adar y To sy’n nythu, yn ogystal ag Ystlumod Lleiaf.
Chwith: Y Tingoch
Mae’r glaswelltir corsiog yn cael ei ddefnyddio gan Ddyfrgwn, amffibiaid, infertebrata dyfrol yn ogystal â Llygod Pengrwn y Dŵr; mae’r rhain hefyd wedi elwa o greu rhwydwaith o byllau bach a mawr. Mae Llygod Pengrwn y Dŵr wedi sefydlu yn y rhain yn gyflym iawn, yn ogystal â Madfallod Dŵr Palfog, a Brogaod.

Yn gyffrous, roedd 2025 yn benllanw ar flynyddoedd o gynllunio a cheisiadau am drwydded wrth i ddau Afanc Castor fiber gael eu rhyddhau i safle mawr, wedi’i ffensio’n arbennig yn barod. Wrth i mi ysgrifennu’r darn hwn, maen nhw wedi bod yno am 6 mis ac wedi bod yn hynod brysur yn lledu a blocio ffosydd, creu pyllau newydd ac adeiladu llety, gan wneud y cynefin yn fwy addas fyth iddyn nhw eu hunain yn ogystal ag ar gyfer llawer o dacsa eraill. Croesi bysedd y bydd posib gweld y gweithgarwch yma yn y gwyllt eto yng Nghymru yn fuan.
Bydd INCC yn cymryd rhan yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod i fonitro sut mae rheoli cynefinoedd o fudd i’r safle, yn ogystal â goruchwylio mwy o newidiadau i gynefinoedd, fel plannu coed yn ddethol, plannu eginblanhigion blodau gwyllt, a chreu mwy o byllau bach. Bydd arolygon ar gyfer llawer o wahanol dacsa yn cael eu cynnal hefyd, yn enwedig ar gyfer Britheg y Gors, Llygoden Bengron y Dŵr, Llygoden yr Ŷd, ac adar sy’n magu. Diolch i berchennog y tir am ei angerdd a’i weledigaeth ac am ein cynnwys ni mewn prosiect mor ysbrydoledig.


































































