Uned Ymchwiliadau Natur

Yn ymchwilio i’r bygythiadau mae bywyd gwyllt a llefydd gwyllt Cymru yn eu hwynebu.

Cyfrannu

Datgelu'r gwir am beth sy'n digwydd i lefydd gwyllt Cymru.

O droseddau bywyd gwyllt a dinistrio cynefinoedd i warchodaeth amgylcheddol sy’n methu, rydyn ni’n ymchwilio i’r materion sy’n creu risg i fyd natur yng Nghymru.

Gan gyfuno newyddiaduraeth ymchwiliol, arbenigedd cadwraeth ac ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth, rydyn ni’n gofyn cwestiynau anodd, yn herio’r rhai sydd mewn grym ac yn datgelu’r problemau mae eraill yn eu hanwybyddu.

Oherwydd bod gwarchod byd natur yn dechrau gyda deall beth sy'n mynd o'i le.

A badger in dark woodland

Ein hymchwiliadau

Drwy ymchwiliadau sy’n cynnwys Un Mewn Pump, rydyn ni’n datgelu’r pwysau sy’n gyrru dirywiad bywyd gwyllt yng Nghymru ac yn datgelu beth sydd angen ei newid.

Rydyn ni’n dilyn y dystiolaeth, yn herio hunanfodlonrwydd ac yn troi materion amgylcheddol cymhleth yn straeon sy’n mynnu sylw.

Our first report; “Protecting Wildlife from Wildfires and Illegal Grassland Burns’ has revealed evidence to suggest that illegal grassland burning is taking place, and that there is a huge data gap in the reporting of such events. Wales is the UK’s ‘Wildfire Capital’ and the damage to wildlife is unfathomable. Things must change.

Adroddiad Tanau Gwyllt

Oes gennych chi rywbeth y dylen ni ymchwilio iddo?

Wedi gweld rhywbeth sy’n bygwth bywyd gwyllt neu lefydd gwyllt Cymru? Rydyn ni eisiau clywed gennych chi.