Apêl gwarchodfa natur Llwyndewi

Tirwedd yn llawn posibiliadau

Ar dir uchel uwchben Rhydaman, wrth darddiad Afon Llwchwr, mae Llwyndewi: 59 hectar o fryniau tonnog, gwlybdiroedd a choetir ifanc ar drothwy rhywbeth rhyfeddol.

Mae hwn yn lleoliad sy’n barod i adfer. Yn barod i ffynnu. A gallai ddod yn rhywbeth gwirioneddol arbennig, gyda’ch help chi.

Llwyndewi yw gwarchodfa natur gyntaf Wild Cymru.

Mae’r hyn sy’n digwydd nesaf yn dechrau yma, ac yn dechrau gyda chi.

Mae Llwyndewi eisoes yn gyfoethog o ran bywyd – ond mae’n fregus.

Mae blynyddoedd heb reolaeth ofalus yn golygu bod potensial llawn y warchodfa y tu hwnt i gyrraedd o hyd. Heb ymyrraeth, bydd cynefinoedd yn dirywio, a gallai rhai o’i rhywogaethau mwyaf agored i niwed gael eu colli.

Tirwedd yn aros i ffynnu

Ac eto, mae gobaith yma o hyd:

  • Glaswelltiroedd corsiog a choetiroedd gwlyb yn parhau
  • Pryfed tân yn dal i fflachio ar nosweithiau o haf
  • Gallai troellwyr mawr ddychwelyd i fagu
  • Gallai titw’r helyg – un o’r adar sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf yng Nghymru – ddod o hyd i loches eto

Gyda’r gofal priodol, gall y warchodfa ddod yn noddfa ffyniannus unwaith eto – wedi’i siapio gan adferiad, amynedd a pharch at fyd natur.

Rhoddwch heddiw os gwelwch yn dda

Bydd pob punt a roddir i’r apêl hon yn cael ei gwario ar gefnogi bywyd gwyllt a natur yn y warchodfa bwysig hon.

Ond rhaid i ni weithredu nawr. Moment dyngedfennol – a chyfle unigryw

Rydyn ni wedi dechrau eisoes. 

Diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae mwy na £90,000 wedi cael ei ddyfarnu i’n helpu ni i ddeall Llwyndewi a chynllunio adferiad y safle.

Y gwanwyn nesaf, byddwn yn cyflwyno cais uchelgeisiol am £650,000 i wireddu’r weledigaeth honno.

Ond does dim posib i ni ddatgloi’r cyllid yma heb gefnogaeth gyfatebol.

Dyma lle rydych chi’n allweddol.

Bydd eich rhodd chi heddiw yn:

  • Cryfhau ein cais am gyllid
  • Dangos bod pobl yn credu yn y llecyn yma
  • Helpu i ddod ag adferiad ar raddfa fawr o fewn cyrraedd

Ac yn bwysig, hyd yn oed os yw ein cais yn aflwyddiannus, bydd pob punt a roddwch yn dal i fynd yn uniongyrchol i adfer Llwyndewi.

Beth fydd eich rhodd yn ei wneud

Mae pob rhodd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac ymarferol ar y tir:

  • £5 – yn rhoi cyfarpar i wirfoddolwyr sy’n mynd i’r afael â rhywogaethau ymledol
  • £20 – yn gosod bocs nythu yn ei le ar gyfer y Gwybedog Brith
  • £100 – yn adfer 150m² o ddôl gyda blodau gwyllt
  • £200 – yn ariannu giât stoc ar gyfer pori cadwraeth

Efallai y bydd y rhain yn ymddangos fel camau bach, ond gyda’i gilydd, maent yn ailadeiladu tirwedd fyw, sy’n anadlu.

Gwarchodfa sydd â gwreiddiau yn ei thirwedd. Ac wedi’i siapio gan y bobl sy’n gofalu amdani.

Ailgysylltu pobl

Nid dim ond ar gyfer bywyd gwyllt mae Llwyndewi — mae ar gyfer pobl hefyd.

Dros y blynyddoedd nesaf, byddwn yn:

  • Ailgyflwyno pori cadwraethol i siapio cynefinoedd yn naturiol
  • Adfer glaswelltiroedd a gwlyptiroedd sy’n gyfoethog o ran rhywogaethau
  • Mynd i’r afael â phlanhigion ymledol, estron
  • Cefnogi rhywogaethau fel pryfed tân a thitwod yr helyg i adfer
  • Creu cyfleoedd i bobl leol gysylltu â byd natur