Adfer Cynefinoedd
Gwneud lle i fyd natur ar ffermydd gweithredol
Mae angen mwy na Gwarchodfeydd Natur ar Fywyd Gwyllt
Mae angen cefn gwlad lle gall byd natur ffynnu ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd, a lle mae arferion ffermio’n helpu i adfer y cynefinoedd a’r rhywogaethau rydyn ni mewn perygl o’u colli.
Mae Cymru Wyllt yn gweithio gyda ffermwyr a rheolwyr tir i roi bywyd gwyllt wrth galon sut mae tir yn cael ei reoli. Ym Mro Morgannwg, rydyn ni’n gweithio gyda fferm i ddangos sut gall ffermio cynaliadwy, sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt, gefnogi bioamrywiaeth a chreu tirwedd iachach.
Rydyn ni eisoes yn gweld arwyddion calonogol o beth gall y dull hwn ei gyflawni
Dros gyfnod o dair blynedd, mae nifer a dosbarthiad yr Ysgyfarnogod sydd wedi’u cofnodi ar y fferm wedi cynyddu. Mae’r Bras Melyn yn ffynnu hefyd gydag arolygon wedi cofnodi o leiaf 9 o adar yn 2026, o gymharu â lleiafswm o bump yn 2024. Maen nhw hefyd i’w gweld mewn rhannau o’r fferm lle na chawsant eu cofnodi yn 2024. Mae nifer yr Ehedyddion wedi cynyddu hefyd.
Mae’r canfyddiadau yma’n cynnig tystiolaeth galonogol bod bywyd gwyllt yn ffynnu o fewn tirwedd amaethyddol weithredol.
Maen nhw’n dangos pam mae monitro’n bwysig, gan ein helpu ni i ddeall sut mae rhywogaethau’n ymateb a ble gall camau gweithredu pellach wneud gwahaniaeth.
Rydyn ni’n credu y gall ffermio ac adfer byd natur weithio law yn llaw. Drwy gefnogi dulliau ymarferol o reoli tir sy’n ystyriol o fywyd gwyllt, rydyn ni eisiau dangos beth sy’n bosibl pan gaiff bywyd gwyllt ei drin fel rhan hanfodol o gefn gwlad cynhyrchiol.
Ein nod ni yw cael tirwedd fyw a gweithredol lle mae ffermio’n cefnogi natur, lle gall poblogaethau o fywyd gwyllt adfer, a lle gall cenedlaethau’r dyfodol brofi byd naturiol cyfoethocach.
Ein Prosiectau Adfer CynefinoeddOur Habitat Restoration Projects

Gwarchodfa Natur Llwyndewi
Mae ein gwarchodfa natur ni wrth droed y Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin yn fosäig amrywiol o gynefinoedd sy’n darparu cartref hanfodol i fywyd gwyllt prin ac eiconig yng Nghymru sydd dan fygythiad.

Adfer tir fferm ym Mro Morgannwg
Mae ein fferm ni sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt ym Mro Morgannwg yn dangos sut gall ffermio cynaliadwy adfer cynefinoedd, cefnogi rhywogaethau sy’n dirywio a helpu byd natur i ffynnu yn nhirwedd amaethyddol Cymru.

Adfer tir fferm yng Ngheredigion
Mae Cymru Wyllt yn helpu i drawsnewid fferm yng Ngheredigion yn dirwedd sy’n llawn bywyd gwyllt, gan adfer cynefinoedd a chefnogi rhywogaethau sydd dan fygythiad, gan gynnwys Llygod Pengrwn y Dŵr a glöyn byw Britheg y Gors.