Mae Rhywogaethau Estron Ymledol (INNS) yn un o’r prif fygythiadau i fioamrywiaeth ledled y byd. Mae symiau enfawr o arian yn cael eu gwario’n flynyddol yn y DU ar gael gwared ar a / neu reoli rhywogaethau fel Canclwm Japan Fallopia japonica, y Cimwch Afon Signal Americanaidd Pacifasticus leniusculus a Gwiwerod Llwyd Sciurus carolinensis.

Un o INNS mwyaf arwyddocaol y DU yw’r Minc Americanaidd Neogale vison. Fel mae’r enw’n awgrymu, mae’r carlymoliad yma’n frodorol i Ogledd America lle mae’n cydfodoli’n naturiol gyda llu o rywogaethau sydd wedi esblygu ochr yn ochr ag ef. Wedi’u cludo i’r wlad yma ar gyfer ffermio ffwr, dihangodd y rhywogaeth o gaethiwed a chafodd ei rhyddhau gan ymgyrchwyr dros les anifeiliaid yn llawn bwriadau da. Yn anffodus, roedd ein bywyd gwyllt ni’n fregus iawn wrth i ysglyfaethwr mor effeithiol a barus gael ei ryddhau ac mae ymlediad y rhywogaeth ledled y wlad wedi cyfrannu at ddirywiad eang mewn amrywiaeth o rywogaethau.

Ymhlith y rhywogaethau mwyaf gweladwy i gael eu heffeithio mae adar dŵr gan gynnwys hwyaid, adar rhydio a Glas y Dorlan. Mae’r Minc yn gyflym ac yn nofiwr rhagorol, ac yn gallu cyrraedd ceudodau bach felly wedi addasu’n ddelfrydol i fwydo ar wyau a chywion amrywiaeth o adar. Bydd hefyd yn cymryd pysgod, amffibiaid a mamaliaid bach.
Llygoden Bengron y Dŵr Arvicola amphibius yw’r mamal sy’n dirywio gyflymaf yn y DU, gydag ysglyfaethu gan y Minc yn un o’r prif achosion. Mae’r Mincod yn gallu hela Llygod Pengrwn y Dŵr o’r dŵr ac ar y tir, gan eu gadael heb unman i ddianc iddo. Gall Minc benywaidd a’i rhai bach ddifa poblogaeth o Lygod Pengrwn y Dŵr yn gyflym iawn.
Mae prosiect Llygod Pengrwn y Dŵr yr ucheldir Wild Cymru (Achub Llygod Pengrwn y Dŵr Ucheldir Cymru – Initiative for Nature Conservation Cymru) yn ein helpu ni i ddysgu llawer mwy am boblogaethau’r rhywogaeth hon a ddarganfuwyd yn gymharol ddiweddar yn ucheldiroedd Cymru. Y gred yw bod y poblogaethau hyn wedi goroesi yn y cynefinoedd is-optimaidd yma o ganlyniad i amharodrwydd y Minc Americanaidd i symud i’r ardaloedd yma sy’n brin o rywogaethau ysglyfaeth.
Yn anffodus, mae’r prosiect wedi canfod tystiolaeth o’r Minc Americanaidd yn lledaenu i’r cynefinoedd ucheldir yma, gan greu bygythiad enfawr i’r poblogaethau hyn, sydd ymhlith y poblogaethau pwysicaf o Lygod Pengrwn y Dŵr yng Nghymru o bosibl.

Mae hyn wedi arwain at Wild Cymru a phartneriaid yn sefydlu Partneriaeth Minc Americanaidd De Cymru (SWAMP). Mae’r grŵp hwn yn cynnwys Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ymddiriedolaeth Natur Gwent a’r Prosiect Mawndiroedd Coll.
Cysylltodd y bartneriaeth â The Waterlife Recovery Trust (WRT) sydd wedi cynnal prosiect rheoli arloesol ar gyfer y Minc Americanaidd yn Nwyrain Anglia (Waterlife Recovery Trust). Maen nhw a’u partneriaid wedi dangos bod dileu’r Minc o ardal maint Dwyrain Anglia mewn ffordd ddynol yn bosibl gan ddefnyddio trapio yn unig. Bydd dileu’r Minc o Gymru yn gofyn am brosiect ledled y wlad ond ein nod ni yw ei sefydlu a’i weithredu, ac rydym newydd gyflogi Swyddog Rheoli Mincod at y diben hwnnw. Bydd yn cael ei gyfarwyddo gan WRT, oherwydd bydd profiad yr Ymddiriedolaeth yn hanfodol, a bydd yn cael ei gynghori gan bartneriaid SWAMP i dargedu a chynnal rheolaeth effeithiol ar y Minc ar draws De Ddwyrain Cymru. Y gobaith yw y bydd llwyddiant y prosiect hwn yn arwain at ymdrech gydlynol i gael gwared ar y rhywogaeth o Gymru, er budd y nifer o rywogaethau sy’n cael eu heffeithio gan bresenoldeb yr ysglyfaethwr yma.