Dyffryn Aman: Monitro Gwybedog Brith

Male-Pied-Flycatcher: photo Jeff Slocombe

Mae INCC wedi bod yn adeiladu ac yn gosod bocsys nythu yn eu lle ar gyfer y Gwybedog Brith yn Nyffryn Aman mewn nifer o goetiroedd amrywiol.

Mae hyn fel rhan o ymrwymiad INCC i gydnabod Dyffryn Aman fel tirwedd o bwysigrwydd i gadwraeth natur.

Gwybedog Brith gwryw yn Nyffryn Aman

Mae’r Gwybedog Brith (Ficedula hypoleuca) yn aderyn eiconig yng Nghymru heb fod yn fwy na’r Pila Gwyrdd (Spinus spinus) ac yn pwyso rhwng 10g a 15g. Aderyn mudol yr haf ydi’r Gwybedog Brith sy’n ymweld â’n glannau ni ac yn gwneud siwrnai anhygoel yr holl ffordd o Orllewin Affrica i fagu yn ein coetiroedd derw aeddfed.

Mae’r Gwybedog Brith yn cyrraedd Dyffryn Aman tua diwedd mis Ebrill ac yn dechrau sefydlu tiriogaethau a dod o hyd i gymar. Mae’n nythu mewn tyllau naturiol mewn coed yn aml, ond yn cymryd at focsys nythu yn rhwydd hefyd. Unwaith y bydd wedi paru, mae’r aderyn yn gwneud nyth siâp cwpan o risgl Gwyddfid a mwsogl ac yn dodwy rhwng 5 a 9 o wyau glas golau. Erbyn diwedd yr haf, bydd y Gwybedog Brith wedi magu cywion ac yn barod i deithio ar ei siwrnai yn ôl i Orllewin Affrica.

Cynefin y Gwybedog Brith mewn yn Nyffryn Aman

Er gwaethaf ei statws eiconig, mae poblogaeth y Gwybedog Brith yn y DU wedi dirywio fwy na 50% ers 1995 (Baillie et al. 2014). Mae bellach ar Restr Goch yr Adar o Bryder Cadwraethol yn y DU (Eaton et al. 2015).

Nid yw’r dirywiad wedi’i ddeall yn llawn eto a gall fod oherwydd nifer o ffactorau integredig gan gynnwys colli cynefin, mudo a newid yn yr hinsawdd. Mae newid yn yr hinsawdd yn achosi diffyg cyfateb o ran faint o fwyd sydd ar gael pan mae’r cywion yn hedfan y nyth (BTO 2019). Mae hyn yn golygu bod y Gwybedog Brith yn rhy hwyr yn aml i fanteisio i’r eithaf ar y niferoedd mawr o bryfed sydd eu hangen i fagu eu cywion.

Yng ngwanwyn 2019, gyda chefnogaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, perchnogion tir a gwirfoddolwyr lleol, gosododd INCC gyfanswm o 145 o focsys nythu yn eu lle. Adeiladwyd y bocsys pren pwrpasol gan wirfoddolwyr a’u gosod mewn pum coetir gwahanol ledled Dyffryn Aman. Adeiladwyd y bocsys pren pwrpasol gan wirfoddolwyr a’u gosod mewn pum coetir gwahanol ledled Dyffryn Aman.

Gwirfoddolwyr cymunedol o Ddyffryn Aman yn gwneud bocsys nythu’r Gwybedog Brith

Cyn y prosiect, nid oedd unrhyw gofnodion biolegol ar gyfer y Gwybedog Brith yn bodoli yn Nyffryn Aman. Datgelodd gwaith monitro ar ddau o’r pum coetir yn y dyffryn yn 2019 gyfanswm o saith o focsys nythu gyda’r Gwybedog Brith yn eu defnyddio.

Nyth Gwybedog Brith mewn bocs yn Nyffryn Aman

Mae bocsys pren yn cynnig ceudod mwy naturiol i adar ond yn anffodus dim ond am ychydig o flynyddoedd maen nhw’n para cyn pydru. Ers 2021, rydyn ni wedi bod yn gosod bocsys prencrid caled yn eu lle, mae’r rhain wedi’u gwneud o gymysgedd o goncrid a naddion pren. Hyd yn hyn mae mwy na 500 o focsys wedi’u gosod allan yn y Dyffryn a wedi cael eu gwirio’n flynyddol ers hynny.

Gwybedog Brith benyw ar bocs prencrid

Ni chafodd unrhyw un o’r bocsys pren eu gwirio yn 2023 ond defnyddiwyd o leiaf 25 o’r bocsys prencrid gan y Gwybedog Brith, canlyniad gwych. Yn ogystal, defnyddiwyd y bocsys gan y Tingoch (Phoenicurus phoenicurus), Telor y Cnau (Sitta europaea), y Titw Mawr (Parus major), y Titw Tomos Las (Cyanistes caeruleus) a’r Dryw (Troglodytes troglodytes).

Nid dim ond adar ddaethon ni o hyd iddyn nhw yn y bocsys chwaith; gwelwyd Llygod y Coed (Apodemus sylvatica), Ystlumod Lleiaf (Pipistrellus sp.) a Chacwn Meirch (Vespa crabro), ynghyd â llawer iawn o bryfed clustiog …

Bydd INCC yn parhau i fonitro’r bocsys nythu a phoblogaeth y Gwybedog Brith yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Dim ond oherwydd yr ymrwymiad parhaus gan berchnogion tir lleol a gwirfoddolwyr o’r gymuned mae hyn yn bosibl. Gobeithir y bydd monitro ac ymchwil yn cyfrannu at yr wybodaeth cadwraeth genedlaethol am y rhywogaeth. Mae rhan o’r ymchwil hwn, sy’n dechrau yn 2025, yn cynnwys modrwyo cywion y Gwybedog Brith (o dan drwydded gan Ymddiriedolaeth Adareg Prydain). Bydd hyn yn ein helpu ni i ddysgu i ble mae’r Gwybedog Brith yn mynd pan fydd yn mudo, yn ogystal â pha mor ffyddlon ydi’r aderyn yma i’r Dyffryn pan fydd yn dychwelyd.

Monitro bocsys nythu yn Nyffryn Aman

Dyffryn Aman: prosiect bocsys nythu’r Cudyll Coch

Yn dilyn llwyddiant prosiect bocsys nythu’r Gwybedog Brith, edrychod INCC ar rywogaethau eraill dan fygythiad a allai gael eu cefnogi yn y dyffryn.

Penderfynwyd mai un rhywogaeth o’r fath a allai elwa o ymdrechion gwirfoddolwyr cymunedol oedd y Cudyll Coch (Falco tinnunculus).

Aderyn ysglyfaethus bach a chyfarwydd yw’r Cudyll Coch a oedd unwaith yn gyffredin ledled rhannau helaeth o Gymru.

Mae poblogaeth y Cudyll Coch yn y DU wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf. Mae hyn wedi cael ei achosi gan nifer o ffactorau gan gynnwys colli cynefin, erlid a chystadleuaeth am safleoedd nythu.

Mae’r Cudyll Coch yn un o’r adar ysglyfaethus hawsaf ei adnabod yng Nghymru.

Cudyll Coch yn hofran dros glaswelltir

Weithiau gellir eu gweld yn hofran dros gynefinoedd glaswelltir yn hela am eu hysglyfaeth, sef mamaliaid bach. Er mawr syndod, nid oes unrhyw gofnodion wedi’u cadarnhau o’r Cudyll Coch yn magu o Ddyffryn Aman yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn er gwaethaf nifer o gynefinoedd glaswelltir a rhostir addas ar gyfer chwilio am fwyd.

Cynefin ar gyfer chwilio am fwyd Cudyll Coch yn Nyffryn Aman

Mae INCC wedi gallu gwneud cyfanswm o 20 o focsys nythu i Gudyllod Coch ar gyfer Dyffryn Aman. Mae hyn wedi cael ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth â pherchnogion tir lleol a gwirfoddolwyr cymunedol gyda chefnogaeth rhaglen Dyfarniadau i Bawb y Loteri Genedlaethol.

Gwirfoddolwyr cymunedol yn gwneud bocsys nythu i Cudyll Coch

Yn ystod y 4 blynedd diwethaf maen nhw i gyd wedi cael eu gosod yn y dirwedd gan wirfoddolwyr arbenigol o Gymdeithas Fodrwyo Gŵyr, a fydd hefyd yn helpu i’w monitro yn y dyfodol. Mae’r bocsys wedi cael eu gosod ar goed sy’n edrych dros laswelltiroedd chwilio am fwyd mewn llecynnau diogel a thawel yn y dyffryn.

Bydd Cudyllod Coch yn nythu mewn amrywiaeth o lefydd, gan gynnwys nythod brain gwag a silffoedd ar glogwyni ac adeiladau, ac mewn coed gwag. Gan nad ydyn nhw’n gwneud eu nyth eu hunain fel y cyfryw, bydd y Cudyllod Coch yn hapus mewn bocsys nythu mewn lleoliad addas. Gallant ddefnyddio’r un bocs nythu am flynyddoedd lawer.

Bydd y bocsys nythu, a gafodd eu gwneud yn lleol gyda help gan wirfoddolwyr, yn cynyddu nifer y safleoedd nythu sydd ar gael i’r Cudyll Coch gyda’r nod o gynyddu llwyddiant magu’r aderyn a maint y boblogaeth yn gyffredinol. Nid oes unrhyw gofnodion o Gudyllod Coch yn nythu yn Nyffryn Aman, felly gallai’r bocsys wneud byd o wahaniaeth.

Amman Valley: Overview

Tair Carn overlooking the Amman Valley. Photo Rob Parry

INCC has been working with partner organisations and communities of the Amman Valley to bring about a greater awareness of the wildlife people share their valley with.

The work has already highlighted the importance of the valley for wildlife, and just how committed local people are about wildlife and nature conservation.

Wildflower meadow at Hen Bethel

The Amman Valley is an area where the impact of industry has been painfully felt by nature in the past. However, the Amman Valley also represents a place where human action has helped shape the landscape and the habitats and wildlife we see today.

Thanks to the valley’s industrial past, much of the land has been less intensively farmed. Local people practiced only small-scale, non-intensive farming to help supplement their incomes. This has meant that today there is a diverse mosaic of different habitats and wildlife to be found. Small areas of habitat scattered throughout the valley and the villages combine to create a large ecological network. This network of habitats supports some of Wales’ most iconic and threatened wildlife.

Nature is a constant source of inspiration, contributing to our physical and mental health and wellbeing. The more resilient our ecosystems are for wildlife, the greater the benefits for people.

Nant Pedol. A tributary of the Afon Amman

Wildlife surveys and community nature conservation activities helped to demonstrate the vital role communities can play in bringing about the positive changes needed to halt and reverse the decline in biodiversity, locally and across Wales.

INCC believes that the community’s dedication to nature conservation coupled with valley’s importance for wildlife warrants special recognition in the form of a Landscape of Importance for Nature Conservation (LINC). All ongoing and future nature conservation work in the area will be under the LINC initiative.

INCC has been able to work closely with a number of local landowners, community groups and volunteers in the valley to deliver a number of targeted nature conservation projects throughout the landscape.

You can download many of our newsletters below

Beaver Reintroduction Wales

Beaver. Allard Martinius

In the past few decades there have been over 200 beaver reintroduction projects to 25 European countries.

After their near extinction in the late 1800s, beavers have now been returned to all countries within the former range – with the exception of Portugal and Wales.

INCC has been working in partnership with North Wales Wildlife Trust and the Welsh Beaver Project (WBP). as part of their license application to NRW for the reintroduction of Eurasian beaver (Castor fiber) to Wales.

Attempts to reintroduce beavers back to Wales have been ongoing since 2005. A number of catchments in Wales have been identified and assessed for their habitat availability and potential to support this keystone species.

Beaver on log: photo Allard Martinius

Most recently, the Dyfi catchment in Mid Wales has been identified as a potentially suitable location for a pilot beaver reintroduction.

To help the application, INCC has undertaken a detailed preliminary assessment of the Dyfi Catchment to see how suitable it would be to support beavers.

As with many catchments throughout Wales, the assessment (Parry 2019) identified numerous stretches of waterbody with sufficient habitat to support beavers.

Beaver dam in Scotland where beavers are now a protected species