Yn dilyn llwyddiant prosiect bocsys nythu’r Gwybedog Brith, edrychod INCC ar rywogaethau eraill dan fygythiad a allai gael eu cefnogi yn y dyffryn.

Penderfynwyd mai un rhywogaeth o’r fath a allai elwa o ymdrechion gwirfoddolwyr cymunedol oedd y Cudyll Coch (Falco tinnunculus).

Aderyn ysglyfaethus bach a chyfarwydd yw’r Cudyll Coch a oedd unwaith yn gyffredin ledled rhannau helaeth o Gymru.

Mae poblogaeth y Cudyll Coch yn y DU wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf. Mae hyn wedi cael ei achosi gan nifer o ffactorau gan gynnwys colli cynefin, erlid a chystadleuaeth am safleoedd nythu.

Mae’r Cudyll Coch yn un o’r adar ysglyfaethus hawsaf ei adnabod yng Nghymru.

Cudyll Coch yn hofran dros glaswelltir

Weithiau gellir eu gweld yn hofran dros gynefinoedd glaswelltir yn hela am eu hysglyfaeth, sef mamaliaid bach. Er mawr syndod, nid oes unrhyw gofnodion wedi’u cadarnhau o’r Cudyll Coch yn magu o Ddyffryn Aman yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn er gwaethaf nifer o gynefinoedd glaswelltir a rhostir addas ar gyfer chwilio am fwyd.

Cynefin ar gyfer chwilio am fwyd Cudyll Coch yn Nyffryn Aman

Mae INCC wedi gallu gwneud cyfanswm o 20 o focsys nythu i Gudyllod Coch ar gyfer Dyffryn Aman. Mae hyn wedi cael ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth â pherchnogion tir lleol a gwirfoddolwyr cymunedol gyda chefnogaeth rhaglen Dyfarniadau i Bawb y Loteri Genedlaethol.

Gwirfoddolwyr cymunedol yn gwneud bocsys nythu i Cudyll Coch

Yn ystod y 4 blynedd diwethaf maen nhw i gyd wedi cael eu gosod yn y dirwedd gan wirfoddolwyr arbenigol o Gymdeithas Fodrwyo Gŵyr, a fydd hefyd yn helpu i’w monitro yn y dyfodol. Mae’r bocsys wedi cael eu gosod ar goed sy’n edrych dros laswelltiroedd chwilio am fwyd mewn llecynnau diogel a thawel yn y dyffryn.

Bydd Cudyllod Coch yn nythu mewn amrywiaeth o lefydd, gan gynnwys nythod brain gwag a silffoedd ar glogwyni ac adeiladau, ac mewn coed gwag. Gan nad ydyn nhw’n gwneud eu nyth eu hunain fel y cyfryw, bydd y Cudyllod Coch yn hapus mewn bocsys nythu mewn lleoliad addas. Gallant ddefnyddio’r un bocs nythu am flynyddoedd lawer.

Bydd y bocsys nythu, a gafodd eu gwneud yn lleol gyda help gan wirfoddolwyr, yn cynyddu nifer y safleoedd nythu sydd ar gael i’r Cudyll Coch gyda’r nod o gynyddu llwyddiant magu’r aderyn a maint y boblogaeth yn gyffredinol. Nid oes unrhyw gofnodion o Gudyllod Coch yn nythu yn Nyffryn Aman, felly gallai’r bocsys wneud byd o wahaniaeth.