RHOWCH DANYSGRIFIAD NATUR CYMRU YN ANRHEG Y NADOLIG YMA

Oes gennych chi rywun hoff o fyd natur yn eich bywyd? Chwilio am anrheg Nadolig ystyrlon iddo ef neu hi?

Does dim angen edrych ymhellach na Natur Cymru! Am ddim ond £30 gallwch roi tanysgrifiad blwyddyn i’r cychgrawn yn anrheg y Nadolig yma a chyflwyno llawenydd bywyd a llefydd Cymru Wyllt sydd mor bwysig i chi i’ch anwyliaid.

Am £30 byddwch yn cael:

  • Copi o’r rhifyn cyfredol (haf 2025) i’w roi fel anrheg wedi’i lapio, a hefyd llythyr croeso dwyieithog yn esbonio’r anrheg ac yn enwi’r rhoddwr. Gellir naill ai anfon hwn yn uniongyrchol drwy’r post at y sawl sydd i’w dderbyn (ac os felly bydd yn cyrraedd mewn amlen frown heb frand gyda sticer yn nodi ei fod yn anrheg, yn ogystal â sticeri ar thema’r Nadolig ar y tu allan), neu i chi fel y rhoddwr i’w roi eich hun.
  • Dau gopi arall (Ionawr a Gorffennaf 2026) fel tanysgrifiad blwyddyn yn cael eu postio’n uniongyrchol at y sawl sydd i’w derbyn adeg eu cyhoeddi.
  • Y pleser o wybod bod y sawl sy’n eu derbyn yn parhau i fwynhau eich anrheg am flwyddyn gron.
  • Y budd o wybod bod eich pryniant hefyd yn cefnogi’r elusen bywyd gwyllt Wild Cymru i gyflawni ei gwaith cadwraeth yng Nghymru.
  • Os byddwch chi’n darparu cyfeiriad e-bost ar ei gyfer, bydd y sawl sy’n derbyn y cylchgrawn yn cael un e-bost yn ei wahodd i adnewyddu ymhen blwyddyn.

Anfonir ein holl gylchgronau gan ddefnyddio’r Post Brenhinol ac felly dim ond archebion fydd wedi cyrraedd erbyn diwedd y diwrnod gwaith ar ddydd Gwener 19 Rhagfyr fydd yn siŵr o gyrraedd y rhai sydd i’w derbyn erbyn Dydd Nadolig, yn unol ag argymhellion y Post Brenhinol.

Ar gyfer ymholiadau pwrpasol ynghylch archebion tymhorol, neu gwestiynau am y cylchgrawn ei hun neu’r broses archebu, cysylltwch â’r golygydd Lizzie Wilberforce ar lizzie.wilberforce@wild.cymru

Am fwy am y cylchgrawn: Natur Cymru

I gael tanysgrifiad yn anrheg ar-lein: Anrheg o Danysgrifiad Blwyddyn i Natur Cymru – Menter ar gyfer Cadwraeth Natur Cymru

Ar gyfer ffyrdd (all-lein) eraill o dalu, cysylltwch â’r golygydd ar y cyfeiriad e-bost uchod.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *