Achub Llygod Pengrwn y Dŵr Ucheldir 

Mae Llygod Pengrwn y Dŵr wedi bod yn destun dirywiad eithriadol ddramatig mewn poblogaeth i unrhyw rywogaeth o famal yng Nghymru. Mae’n debygol, os na fyddwn ni’n gweithredu i achub Llygod Pengrwn y Dŵr, y bydd y cymydog cyffredin yma i ni ar un adeg yn wynebu difodiant yn sicr bron o’r glannau hyn. Mae cynefinoedd ucheldir fel corsydd, mignenni a rhostiroedd yn cynnig cyfle unigryw ar gyfer cadwraeth Llygod Pengrwn y Dŵr yng Nghymru. Er nad yw cynefinoedd ucheldir cystal yn aml o ran ansawdd, mae eu diogelwch cymharol rhag y Minc Americanaidd, ynghyd â’u graddfa a’u cysylltedd, yn gwneud y rhanbarthau hyn o Gymru’n hanfodol yn y frwydr i achub Llygod Pengrwn y Dŵr rhag difodiant. Yn ardal ein prosiect ni yn ucheldiroedd Morgannwg, mae tîm Cymru Wyllt, ynghyd â gwirfoddolwyr lleol a myfyrwyr, wedi gallu arolygu mwy na 70 o safleoedd ar gyfer Llygod Pengrwn y Dŵr ac wedi cofnodi eu presenoldeb mewn 26 ohonynt. Mae’r lefel yma o safleoedd positif wedi’u gwasgaru dros ardal mor fawr yn golygu bod ucheldiroedd Morgannwg bellach yn cael eu hystyried fel un o’r tirweddau mwyaf arwyddocaol ar gyfer Llygod Pengrwn y Dŵr yng Nghymru. Er gwaethaf y newyddion da, mae’r prosiect hefyd wedi canfod bod Llygod Pengrwn y Dŵr yn wynebu cyfres o fygythiadau newydd, a rhai sy’n bodoli eisoes, tra maen nhw yn y tirweddau ucheldirol hyn, yn fwyaf nodedig, presenoldeb cynyddol y Minc Americanaidd. Mae cadwraeth gymunedol yn allweddol i achub Llygod Pengrwn y Dŵr yn ucheldiroedd Morgannwg ac ar draws ucheldiroedd Cymru.  

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *