Wrth i ail don wres y flwyddyn ddechrau, rydyn ni wedi ysgrifennu at Gadeirydd newydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Materion Gwledig, James Evans AS, i ofyn am ei sicrwydd eu bod wedi paratoi’n llawn ar gyfer yr effaith y mae ein hinsawdd sy’n cynhesu yn ei chael ar ein gwlad. Mae Cymru Wyllt wedi ymrwymo i sicrhau bod Llywodraeth Cymru a’i chyrff cysylltiedig yn paratoi’r ffordd i Gymru ddod yn arweinydd mewn gweithredu ar newid hinsawdd, a gwarchod ein bywyd gwyllt sydd eisoes yn agored i niwed rhag ei fygythiadau real iawn a chwbl bresennol.